Nathan Cleverly (o'i wefan)
Fe fydd Nathan Cleverly yn cael ei gyfle i herio Jurgen Braehmer am goron WBO is-drwm y byd yn Llundain ar 21 Mai.

Roedd y Cymro i fod i ymladd yr Almaenwr ar 2 Ebrill ond fe gafodd yr ornest ei gohirio.

Bellach, mae’r hyrwyddwr bocsio, Frank Warren, wedi cyhoeddi bod yr ornest hir ddisgwyliedig yn digwydd yn Arena O2 ym mis Mai.

Fe fydd Cleverly, sydd eisoes yn berchen ar goron interim y WBO,  yn anelu i fod yn un o bencampwyr ifancaf Prydain.

“Mae’r ornest rhwng Cleverly a Braehmer yn mynd i fod yn anhygoel,” meddai Frank Warren. “Mae Cleverly yn un o’r bocswyr mwyaf addawol ac mae’n gyfle iddo brofi ei hun.”

Roedd Nathan Cleverly hefyd yn croesawu’r cyfle – a hithau wedi ymddangos ar un adeg y byddai Braehmer naill ai’n ymddeol neu’n gorfod ildio’i deitl.

Cleverly’n falch o’r cyfle

Ond, ym marn y Cymro, roedd hi’n bwysig cael cyfle i guro’r pencampwr er mwyn cipio’r teitl.

“Dw i’n mynd i ymosod ar Braehmer,” meddai ar ei wefan. “Dw i am gerdded trwyddo a rhoi amser caled iawn iddo fe.

“Rwy’n teimlo bod yr ornest yma wedi dod ar yr amser perffaith i fi ac rwy’ am wneud datganiad mawr.”

Dim ond dwy ornest y mae Braehmer, 32, wedi eu colli mewn 36 tro yn y sgwar tra bod Cleverly’n ddiguro mewn mwy nag 20.