Georgia Davies
Roedd rhagor o lwyddiant i Gymru ym Mhencampwriaethau Prydain ym Manceinion wrth i Georgia Davies ennill y fedal aur yn y ras nofio ar y cefn 50m.

Fe enillodd y nofiwr o Gymru’r goron mewn 28.67 eiliad. Roedd Emma Saunders 0.13 eiliad y tu ôl iddi.

Fe orffennodd Jemma Lowe yn ail yn y ras pili-pala 200m gydag amser o 2:06.94. Dyna ail amser cyflymaf ei gyrfa.

Mae llwyddiant Lowe yn golygu y bydd hi’n gallu cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Shanghai.

“Roedd y deg metr olaf yn anodd a doedden ni ddim yn credu fod gen i unrhyw egni ar ôl,” ebe Jemma Lowe.

“Ond roedd yn rownd derfynol ac roeddwn i eisoes wedi methu ag ennill y ras 100m.  Felly fe wnes i fy ngorau glas ac rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad.”

Daw llwyddiant Davies a Lowe ar ôl i Gymraes arall, Jazz Carlin, orffen yn ail i Rebecca Adlington yn y rasys dull rhydd 200m a 400m.