Enillodd Jade Jones fedal aur yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Llundain neithiwr, y tro cyntaf iddi ymladd yn y ddinas ers Gemau Olympaidd 2012.

Curodd hi Lee Ah-reum o Dde Corea yn y pwysau -57kg, ei gwrthwynebydd pan gollodd hi’r cyfle i ennill ei theitl byd cyntaf ym mis Mehefin.

Ond sicrhaodd hi fuddugoliaeth y tro hwn o 31-14.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd hi: “Y ffordd dw i wedi cael fy adeiladu yw ’mod i eisiau ennill yr aur bob tro – felly mae’n anodd pan y’ch chi’n ennill yr arian pan y’ch chi wedi arfer ag ennill yr aur.

“Mae cael ennill yn Llundain a churo’r ferch oedd wedi fy nghuro ym Mhencampwriaeth y Byd yn felys. Roedd yn deimlad braf cael teimlo fel fi fy hun unwaith eto.”

Daw ei buddugoliaeth ar ôl i’w chydwladwraig Lauren Williams ennill y fedal aur nos Wener.