Mae’r Gymraes Jazz Carlin wedi troi ei sylw at nofio dŵr agored wrth iddi baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo yn 2020.

Ar ôl cyfaddef ei siom o gael dwy fedal arian yn Rio de Janeiro y llynedd, dywedodd ei bod hi wedi cwympo mewn cariad â dull newydd o nofio.

Dywedodd hi wrth y BBC: “Mae pobol yn credu ’mod i’n wallgo’ ac yn gofyn a ydych chi’n cael eich taro.

“Mae ofn ofnadwy sglefrod môr arna’i hefyd, ond mae’n brawf newydd a ffres.”

Bydd hi’n cystadlu mewn dŵr agored am y tro cyntaf yn China yr wythnos nesaf, a hynny ar ôl colli Pencampwriaethau’r Byd dros yr haf.

‘Anodd’

Dywedodd Jazz Carlin: “Roedd hi’n anodd iawn colli Pencampwriaethau’r Byd a’u gwylio nhw ar y teledu.

“Ond dyna’r penderfyniad cywir, gan mod i’n teimlo’n fyw eto.

“Mae gen i gymaint mwy o egni, dwi wedi cael adfywiad a bydd hynny yn fy helpu yn y tymor hir, yn sicr.

“Mae pobol yn sôn am siom ôl-Olympaidd ond tan eich bod chi wedi bod yno ac wedi bod trwy hynny, dydych chi ddim yn deall.”