Fe fydd y marathon cyntaf erioed yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd ar Ebrill 29 y flwyddyn nesaf.

Mae Associated British Ports yn cefnogi’r digwyddiad, y marathon cyntaf yng Nghymru, a bydd eu cefnogaeth yn helpu’r marathon i wella adnoddau ar lawr gwlad yn y gymuned.

Yn ôl Cyfarwyddwr ABP De Cymru, Matthew Kennerley, fe fydd y marathon yn “rhoi Cymru o dan chwyddwydr chwaraeon rhynglwadol unwaith eto”.

Mae’r marathon yn cael ei ystyried yn hwb ar gyfer cais Cyngor Dinas Casnewydd i adfywio’r ddinas.

Mae llwybr y marathon wedi cael ei ddylunio gan y rhedwr marathon o Gymru, Steve Brace, ac mae’n dod i ben o fewn ffiniau Rhanbarth Gwella Busnesau Casnewydd yng nghanol y ddinas.

Run 4 Wales, trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd a Velothon Cymru, sy’n trefnu’r marathon. Adeg y ras, fe fydd gŵyl redeg yn cael ei chynnal er mwyn tynnu sylw at gyfleusterau’r ddinas a chodi arian at achosion da.

Fe fydd hi’n bosib gwneud gais i redeg y marathon o fory ymlaen (dydd Iau, Hydref 5).

Digwyddiadau byd-eang yng Nghasnewydd

Mae Casnewydd eisoes wedi cynnal un o’r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon byd-eang, sef prif gystadleuaeth y byd golff, Cwpan Ryder.

Fe gafodd y gystadleuaeth rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau ei chynnal ar gwrs golff Celtic Manor ar gyrion y ddinas yn 2010, ac fe gafodd uwchgynhadledd NATO ei chynnal yn y ddinas bedair blynedd yn ddiweddarach.









Dywedodd Cyfarwyddwr ABP De Cymru, Matthew Kennerley y bydd y marathon yn “rhoi Cymru o dan chwyddwydr chwaraeon rhynglwadol unwaith eto”.

 

Mae’r marathon yn cael ei ystyried yn hwb ar gyfer cais Cyngor Dinas Casnewydd i adfywio’r ddinas.

 

Mae llwybr y marathon wedi cael ei ddylunio gan y rhedwr marathon o Gymru, Steve Brace, ac mae’n dod i ben o fewn ffiniau Rhanbarth Gwella Busnesau Casnewydd yng nghanol y ddinas.

 

Run 4 Wales, trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd a Velothon Cymru, sy’n trefnu’r marathon.

 

Adeg y marathon, fe fydd Gŵyl Redeg yn cael ei chynnal er mwyn tynnu sylw at gyfleusterau’r ddinas a chodi arian at achosion da.

 

Bydd ceisiadau ar gyfer y marathon yn agor ddydd Iau.

 

Digwyddiadau byd-eang yng Nghasnewydd

 

Mae Casnewydd eisoes wedi cynnal un o’r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon byd-eang, sef prif gystadleuaeth y byd golff, Cwpan Ryder.

 

Cafodd y gystadleuaeth rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau ei chynnal ar gwrs golff Celtic Manor ar gyrion y ddinas yn 2010.

 

Ac fe gafodd uwchgynhadledd NATO ei chynnal yn y ddinas bedair blynedd yn ddiweddarach.

 

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio â’r marathon fel partneriaid.

 

‘Cyfle ardderchog’

 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y marathon yn “gyfle ardderchog i ni sefydlu marathon cenedlaethol hirddisgwyliedig i Gymru” ac yn gyfle i “arddangos ein gallu i gynnal prif ddigwyddiadau’r byd chwaraeon yng Nghymru”.

 

“Bydd Marathon ABP Cymru Casnewydd hefyd yn cynnig cyfle proffil uchel i bobol leol ac ymwelwyr i gael blas ar ganol dinas Casnewydd sydd newydd ei datblygu, ac fe fydd yn hwb i’r economi leol.”

 

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox fod y ddinas yn “angerddol am chwaraeon ac wedi cyffroi o gael cynnal Marathon ABP Cymru Casnewydd.”