Gorffennodd Tîm Sky, gan gynnwys Geraint Thomas, uchod, ac Owain Doull, yn drydedd (Llun: Tim Sky)
Enillodd Sunweb y dwbl wrth i’r merched ennill eu ras nhw hefyd ym Mhencampwriaeth Beicio’r byd yn Bergen, Norwy ddydd Sul.

Yn cynnwys enillydd y Giro d’ Italia Tom Dumoulin, wnaeth y tîm o’r Almaen orffen mewn 47 munud 50.42 eiliad i guro pencampwyr 2014 a 2015 BMC o 8.29 eiliad.

Gorffennodd  Tîm Sky, yn cynnwys y ddau Gymro Geraint Thomas ac Owain Doull yn drydedd ar ôl i’r ddau fethu dal cyflymdra gweddill eu tîm, 22.35 eiliad ar ôl Sunweb. Roedd Sky wedi bod yn curo amser Sunweb  yn y siecbwynt gyntaf, ond mi ddechreuodd gael trafferth ar y ddringfa ac mi gollodd amser.

Heddiw (dydd Llun) bydd y Cymro Scott Davies yn rasio yn y ras yn erbyn y cloc unigol i feicwyr o dan-23.