Owain Doull (Llun: Wikipedia/Jeremy Jannick)
Mae’r beiciwr o Gaerdydd, Owain Doull, wedi’i enwi i gystadlu yn ras ffordd pencampwriaeth y byd yn Bergen, Norwy, yr wythnos nesaf (Medi 17-24), ond mae ei gyd-Gymro, Geraint Thomas, wedi tynnu allan.

Cystadleuaeth flynyddol yw’r bencampwriaeth lle mae dynion a merched dros 23, o dan 23 a’r ieuenctid yn cymryd rhan.

Cafodd y gyntaf ei chynnal yn Copenhagen, Denmarc yn 1921, a’r bencampwriaeth broffesiynol gyntaf yn yr Almaen yn 1927. Jean Aerts o Wlad Belg enillodd y ras amatur a fu’n mynd tan 1995 – newidiodd honno wedyn i ras ar gyfer seiclwyr o dan 23 oed.

Mae’r enillydd ym mhob disgyblaeth yn gwisgo’r ‘crysau enfys’ am 12 mis – ac mae hon yn dipyn o anrhydedd yn y byd seiclo.

Enwau eraill o Gymru

Yn cynrychioli’r merched mae Elinor Barker, bydd hefyd yn cymryd rhan yn y ras yn erbyn y cloc. Fe enillodd hi fedal arian ar lefel iau yn 2011.

A’r enw arall yw Scott Davies o Gaerfyrddin, sydd wedi cael tymor gwych yn cystadlu yn y ras yn erbyn y cloc a’r ras ffordd o dan 23 oed.

“Roedd dewis y beiciwr yn anodd iawn oherwydd dyfnder talent sydd gennym yn Prydain ar bob lefel, mae’n wych i fod yn y safle hwn,” meddai, Iain Dyer, Prif Hyfforddwr Tîm Prydain.

Elit dynion – ras ffordd

Adam Blythe
Mark Christian
Jon Dibben
Owain Doull
Tao Geoghegan Hart
Pete Kennaugh
Ian Stannard
Ben Swift
Scott Thwaites

Elit Merched – ras yn erbyn y cloc

Elinor Barker
Hannah Barnes

Elit merched – ras ffordd

Elinor Barker
Alice Barnes
Hannah Barnes
Lizzie Deignan
Dani King
Mel Lowther
Hayley Simmonds

Dynion o – dan-23 – ras yn erbyn y cloc

Scott Davies
Chris Lawless

O dan 23 oed – ras ffordd

Scott Davies
Ethan Hayter
James Knox
Chris Lawless
Mark Stewart
Ollie Wood