Mae’r gyn-bencampwr byd ac enillydd dwy fedal Olympaidd o’r Fenni, Becky James, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o fyd seiclo cystadleuol yn 25 oed.

Enillodd ddwy fedal aur a dwy fedal efydd yn ystod Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd 2013 ym Melarws pan oedd hi’n 21 oed. 

Er iddi gael anaf i’w phen-glin, a gorfod ymdopi ag ofnau bod ganddi ganser, wrth baratoi at Gemau Olympaidd Rio, llwyddodd i ennill medalau arian yno yng nghystadlaethau’r sprint a keirin.

Mewn datganiad gafodd ei rhyddhau heddiw (ddydd Iau, Awst 17) mae hi’n dweud ei bod “wedi gwireddu ei breuddwydion” ac mae’n debyg ei bod yn bwriadu dechrau busnes pobi. 

“Dechrau pennod newydd”

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi cael cyfle i feddwl am fy nyfodol ac wedi penderfynu ymddeol o rasio trac rhyngwladol,” meddai. Becky James.

“Wedi dros 13 blynedd o rasio ar fy meic trac, mae nawr yn gyfle i ddechrau pennod newydd a chyffrous o fy mywyd.

“Dw i wedi gwireddu fy mreuddwydion o fod yn bencampwr byd, enillydd medal y Gymanwlad dros Gymru, a’n enillydd dwy fedal arian Olympaidd. Dw i eisiau mwynhau fy mywyd yn awr, heb drefn ymarfer lem.”