Euros Jones-Evans a Brett Johns
Fe fu’n fis i’w gofio ym myd y crefftau ymladd cymysg i’r gwneuthurwr ffilm o Abertawe, Euros Jones-Evans.

Dair wythnos yn ôl, fe enillodd prif weithredwr cwmni cynhyrchu Tanabi fedal aur ym Mhencampwriaeth Ju-jitsu Brasilaidd Prydain yn y Crystal Palace yn Llundain.

Dywedodd Euros Jones-Evans wrth golwg360: “Wnes i ddechrau BJJ ac MMA bum mlynedd yn ôl yn Academi Chris Rees.

“Y nod i ddechrau oedd colli pwysau. Wnes i gael fy ffeit MMA gyntaf ar ôl pedwar mis o ymarfer, a wedyn penderfynu bo fi isio cario ’mlaen hefo’r chwaraeon.

“Bum mlynedd yn ddiweddarach, dw i wedi cyrraedd y nod o fod yn bencampwr Prydain.”

Brett Johns

Nos Sul ddiwethaf (Gorffennaf 16) yn Glasgow, roedd Euros Jones-Evans yn dathlu buddugoliaeth yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg, Brett Johns o Bontarddulais, ac yntau’n aelod o’i dîm cynorthwyol.

Hon oedd ail fuddugoliaeth Brett Johns yn yr Ultimate Fighting Championship (UFC), gan guro Albert Morales o’r Unol Daleithiau.

“Roedd taith o 800 milltir o fewn 24 awr yn werth chweil er mwyn gweld Brett Johns yn ennill ei ail ffeit UFC ac yn ymestyn ei record i 14 ffeit broffesiynol heb golli,” meddai Euros Jones-Evans.

“Dw i’n gweld ei aberth bob dydd, a’r holl waith caled sy’n mynd i mewn i’r ymarfer, felly llongyfarchiadau mawr i Brett ar berfformiad solet, ac i’r tîm hyfforddi o Academi Chris Rees – Chris, Ashley Williams, Sam Thomas a’r holl bartneriaid ymarfer am ganlyniad rhagorol.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r tîm, ac alla’i ddim aros i weld be ddaw dros y deuddeg mis nesaf.”

Roedd yn noson lwyddiannus i Gymru nos Sul, wrth i’r Cymro arall yn Glasgow, Jack Marshman ennill ei ornest yntau yn erbyn Ryan Janes o Ganada.