Roger Federer (Llun: PA)
Mae Roger Federer bellach wedi ennill tlws y dynion yn Wimbledon fwy o weithiau nag unrhyw un arall yn hanes y gamp.

Fe enillodd y chwaraewr o’r Swistir ei wythfed teitl y prynhawn yma wrth iddo fe guro Marin Cilic o Groatia yn y rownd derfynol mewn tair set, 6-3 6-1 6-4.

Cyn heddiw, roedd e a Pete Sampras wedi ennill saith tlws yr un.

Fe, hefyd, yw’r dyn hynaf yn yr oes fodern i ennill tlws y dynion, ac yntau’n 35 oed.

‘Anghrediniaeth’

Fe ddywedodd wrth y BBC ar ddiwedd yr ornest: “Mae chwarae twrnament heb golli set yn hudolus.”

Ychwanegodd ei fod yn teimlo “anghrediniaeth” ei fod e wedi “gallu cyrraedd y fath uchelfannau”.

“Ond os ydych chi’n credu, gallwch chi fynd ymhell yn eich bywyd. Ac fe wnes i ddal i gredu.”