Y ras gychod (Llun: PA)
Rhydychen oedd yn fuddugol yn Ras Gychod y dynion heno i atal Caergrawnt rhag mynd am ail fuddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf ers 1999.

Ymhlith tîm Rhydychen roedd William Warr, oedd wedi cynrychioli Caergrawnt ddwy flynedd yn ôl.

Cael a chael oedd hi ar ddechrau’r ras cyn i Rydychen wibio ymlaen ar ôl dwy funud.

Bu bron i’r timau daro’n erbyn ei gilydd wedyn wrth i Gaergrawnt daro’n ôl, ond fe lwyddodd Rhydychen i adennill eu mantais unwaith eto ger pont Hammersmith.

Hyd cwch a hanner oedd ynddi yn y pen draw.

Ras y merched

Caergrawnt, fodd bynnag, enillodd ras y merched yn gynharach y prynhawn yma ar ôl i Rydychen ddechrau’n wael.

Mae’n ymddangos bod Rhydychen wedi plymio’r rhwyfau’n rhy ddwfn i mewn i’r afon, gan wyro’r cwch i un ochr.

Fe gollon nhw gryn amser wrth gywiro’r camgymeriad, wrth i Gaergrawnt ymestyn eu mantais yn y cyfamser, a hynny ar ôl ychydig gannoedd o fetrau yn unig i’r man cychwyn yn Putney.

Roedd ganddyn nhw fantais o ddeg eiliad ar ôl milltir, ac fe gwblhaon nhw’r ras yn gynt nag y llwyddodd y dynion i wneud y llynedd.