Zack Davies o Bontyberem (Llun: S4C)
Y bocsiwr pwysau is-welter o Bontyberem, Zack Davies fydd un o gyflwynwyr cyfres newydd Y Ffeit ar S4C heno.

Bydd y gyfres yn rhoi sylw dros chwe rhaglen o awr yr un i ornestau paffio a champau ymladd cymysg (MMA), gydag uchafbwyntiau o ornestau proffesiynol ac amatur o nifer o leoliadau ledled Cymru.

Heno yng Nghanolfan Hamdden Rhydycar ym Merthyr Tudful fydd y lleoliad ar gyfer gornest baffio rhwng Tony Dixon o Aberpennar a Mike Jones o Wrecsam wrth iddyn nhw herio’i gilydd i ddod yn Bencampwr Pwysau Gor Welter Cymru.

Yn ôl Zack Davies, trwy genfigen y dechreuodd ei ddiddordeb mewn paffio.

“Mae bocsio yn fy ngwaed i. Fe ddechreuodd fy nhad-cu ei gampfa ei hun ym Mhontyberem, ac roedd ei bedwar mab e’n bocsio.

“Mae ’na hen luniau o’n nhad i’n bocsio ar y waliau, felly byddwn i’n dweud mai fy nheulu i dwi’n edrych lan at fwyaf yn y byd bocsio.

“Ond daeth fy niddordeb mewn bocsio pan oeddwn i tua 11 oed. Roedd fy mrawd i’n henach na fi ac roedd e’n cael lot o dariannau a lot o’r limelight drwy focsio, ac roeddwn i eisiau dipyn o hynny.

“Felly trwy genfigen nes i ddechrau bocsio a dwi ’di bod yn hooked ers hynny.”

Ymhlith uchafbwyntiau gyrfa Zack Davies hyd yn hyn mae gornest ar gerdyn Roy Jones v Enzo Maccarinelli ym Mosgo yn 2015 a Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.

Paffio yng Nghymru

 

Yn ôl Zack Davies, mae dyfodol disglair i’r gamp yng Nghymru, gyda Lee ac Andrew Selby a Nathan Cleverly wedi cyrraedd y brig.

“Fi’n credu bod ’na lot o ymladdwyr o ansawdd yn dod trwyddo ar y funud, pobl fel Dale Evans, Tony Dixon, Chris Jenkins ac Alex Hughes.

“Falle’r bois yma fydd y Cleverly neu’r Selby nesaf, felly mae’n grêt bod ni’n gallu dilyn gyrfaoedd y bocswyr Cymreig ’ma o’r dechrau ar Y Ffeit.”

Tony Dixon

 

Er ei fod e’n enw cymharol newydd, mae Zack Davies yn credu bod gan Tony Dixon ddyfodol disglair yn y gamp hefyd.

“Tony Dixon yw’r enw mawr ar y cerdyn a fi’n edrych ymlaen at ei weld e. Mae Tony yn focsiwr cyffrous ac yn foi cryf.

“Fe gafodd ei fwrw mas y flwyddyn ddiwethaf, ac mae e wedi ennill un ffeit ers hynny, ond bydd hwn yn brawf mawr iddo eto yn erbyn Mike Jones, rhywun fydd yn edrych ymlaen at ffeit fwyaf ei yrfa hyd yn hyn, a rhywun sydd wastad mewn siâp da.

“Mae Dorian Darch [prif focsiwr pwysau trwm Cymru fydd yn ymladd Chris Healey], yn focsiwr cryf hefyd, felly bydd yr ornest yma yn werth ei gweld hefyd.”

Bydd cynhyrchiad Antena a Tanabi, Y Ffeit ar S4C heno am 9.30pm, ac ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill.