Fe fydd Gerwyn Price o Gaerffili yn cael chwarae mewn gêm gyn-derfynol o flaen camerâu teledu am y tro cyntaf erioed heno, ar ôl cyrraedd pedwar olaf Pencampwriaeth Dartiau Agored Prydain ym Minehead.

Sgoriodd y Cymro 160 i guro Ian White o 10-9 yn y cymal olaf.

Ar ôl bod yn gyfartal 2-2, cael a chael oedd hi wrth i’r Sais fynd ar y blaen o 8-7 ac o 9-8.

Ond fe enillodd y Cymro’r ddwy gêm olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth, a hynny drwy dorri tafliad Ian Price yn y gêm olaf.

Mae Gerwyn Price wedi bod yn chwarae dartiau ar lefel y PDC ers tair blynedd ar ôl troi ei gefn ar y byd rygbi, yn dilyn cyfnodau’n fachwr i dimau Castell-nedd a Cross Keys ac i ranbarth Glasgow.

Treuliodd gyfnod yn chwarae rygbi’r gynghrair gyda Scorpions De Cymru hefyd.

Fe fydd e’n darganfod yn ddiweddarach pwy fydd ei wrthwynebydd yn y rownd gyn-derfynol heno.