CCA 2.0
Roedd dod yn erbyn un o chwaraewyr gorau’r byd yn wobr ynddi ei hun, yn ôl y chwaraewr snwcer 15 oed, Jackson Page, ar ôl colli o 4-0 i Judd Trump ym Mhencampwriaeth Snwcer Cymru.

Ac mae wedi rhoi awgrym cry’ y bydd yn troi’n broffesiynol cyn gynted â phosib – efallai o fewn yr wythnosau nesa’, os bydd yn ennill pencampwriaeth amatur Ewrop – dan 21 neu yn y categori agored.

Fe fydd yn mynd i chwarae honno yng Nghyprus ar ôl mynd yn ôl i’r ysgol yng Nglyn Ebwy am wythnos.

Tri chwarter awr

Fe gafodd Jackson Page ei guro mewn tua thri chwarter awr yn nhrydedd rownd pencampwriaeth Cymru ond roedd yn falch iawn o fod wedi cyrraedd cyn belled.

Ac fe ddywedodd wrth wefan y bencampwriaeth ei fod wedi dysgu llawer wrth wylio Judd Trump yn chwarae.

“Wna’ i gael llawer o hynna,” meddai. “Fydden i wedi bod yn hapus hyd yn oed tawn i wedi mynd mas yn y rownd gynta’, cyn belled â ’mod i wedi rhoi cynnig iawn arni.

“Mae ennill dwy gêm yn grêt. Allwch chi ddim disgwyl llawer mwy yn fy oedran i.”

Cer yn broffesiynol – cyngor Trump

Roedd Judd Trump hefyd yn hael ei ganmoliaeth i’r chwaraewr ifanc sy’n cael ei hyfforddi gan gyn bencampwr y byd, Mark Williams.

A’i gyngor Jackson Page oedd troi’n broffesiynol cyn gynted â phosib.

  • Pencampwr y llynedd, Ronnie O’Sullivan, yw’r chwaraewr enwog diweddara’ i golli – a hynny wedi iddo fod 3-0 ar y blaen i Mark Davis.