Judd Trump - arwr a gwrthwynebydd nesa tebygol Jackson Page (FilipiKD CCA 4.0)
Mae’r bachgen 15 oed o Lyn Ebwy, Jackson Page, wedi cyrraedd rownd 32 ola’ Pencampwriaeth Snwcer Cymru.

Fe lwyddodd i guro John Astley, sydd yn y 78fed lle ymhlith detholion y byd, er mwyn mynd ymlaen i wynebu naill ai’r cyn-chwaraewr gorau’r byd, Judd Trump, neu Alex Borg.

Ar ôl ennill ar y ddu ola’ yn y rownd gynta’, fe lwyddodd y bachgen ysgol i ennill ei le yn y drydedd rownd trwy sgorio toriad o 36 yn y ffrâm ola’ heddiw.

Mae eisoes wedi ennill £3,500 am ei gampau ac fe allai dreblu hynny bron trwy ennill ei gêm nesa’.

Fe gyfaddefodd Jackson Page ei fod wedi mynd yn blentyn i weld Judd Trump yn chwarae yng Nghasnewydd ac y byddai wrth ei fodd yn ei wynebu.

Jackson Page yw pencampwr snwcer y byd o dan 18 oed.