Ryan Day (Llun: PA)
Fe gollodd y Cymro Ryan Day yn rownd derfynol Grand Prix Snwcer y Byd yn Preston neithiwr.

Aeth y Sais Barry Hawkins ar y blaen o 9-3 ar ôl sgorio rhediad o 100 neu fwy mewn pum ffrâm.

Ond enillodd y Cymro bedair ffrâm yn olynol cyn i Barry Hawkins groesi’r llinell.

Mae’r Sais yn derbyn £100,000 am ennill y gystadleuaeth.

Pencampwriaeth Agored Cymru

Mae sylw’r Cymro bellach yn troi at Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru, sy’n dechrau yng Nghaerdydd heddiw.

Fe fydd e’n herio’r Sais Dave Gilbert yn y rownd gyntaf heddiw am 3 o’r gloch.

Gemau’r Cymry

Dyma restr lawn o gemau’r chwaraewyr eraill o Gymru:

Dominic Dale v Zhang Anda

Lee Walker v Rhys Clark

Jackson Page v Jason Weston

Matthew Stevens v Stuart Bingham

Ian Preece v John Astley

Jak Jones v Craig Steadman

David John v Mark King

Tyler Rees v Jamie Jones

Gareth Allen v Wang Yuchen

Mark Williams v Elliot Slessor

Daniel Wells v Yan Bingtao