Y nofiwr Olympaidd Michael Phelps yw enillydd Gwobr Cyfraniad Oes Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BCC eleni.

Bydd yr Americanwr 31 oed yn derbyn y wobr yn ystod y seremoni fawreddog yn y Genting Arena yn Birmingham heno.

Enillodd fedal aur Olympaidd rhif 23 ei yrfa yn Rio de Janeiro eleni yn ystod Gemau llwyddiannus, lle enillodd bum medal aur a medal arian.

Enillodd 28 o fedalau Olympaidd i gyd, a hynny rhwng 2000 a 2016.

Roedd wedi ymddeol cyn y Gemau eleni, ond fe gafodd lwyddiant yn y pili-pala 200m, y medli 200m, y 4x100m yn y dull rhydd, y 4x200m yn y dull rhydd a’r medli 4x100m.

Mae rhestr yr enillwyr blaenorol yn cynnwys y pêl-droediwr Pélé a’r golffiwr Seve Ballesteros.

Bydd prif enillydd y noson yn cael ei ddewis drwy bleidlais gyhoeddus, ac mae Gareth Bale ymhlith yr 16 sydd ar y rhestr fer.