Jade Jones (Llun: British Taekwondo)
Enillodd Jade Jones fedal aur yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Baku nos Sadwrn.

Curodd hi Hedaya Malak o’r Aifft o 7-0 i gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth hyd at 57kg.

Yn dilyn ei llwyddiant, dywedodd enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn: “Ar ôl ennill yn y Gemau Olympaidd, ro’n i’n teimlo’n fwy hamddenol o lawer wrth ddod at y twrnament hwn.

“Dyw pobol ddim yn sylweddoli pa mor anodd yw hi i ddod nôl o’r Gemau Olympaidd ac ymladd eto. Gall fod yn wrth-uchafbwynt felly dw i’n falch iawn o gael yr aur oherwydd allwn i ddim gwneud hynny ar ôl Llundain.”