Mae Jade Jones o’r Fflint wedi ennill ei gornest gyntaf wrth geisio amddiffyn ei medal aur Olympaidd.

Bydd yn ymddangos yn nes ymlaen heddiw yn rownd yr wyth olaf.

Enillodd hi’r fedal aur yn Llundain yn y categori hyd at 57kg bedair blynedd yn ôl ar ôl curo Yuzhuo Hou o China – pencampwraig y byd – yn y rownd derfynol.

Yn 19 oed, hi oedd y ferch gyntaf o Brydain i fod yn bencampwraig Olympaidd yn ei champ.

Ddwy flynedd yn unig cyn hynny, roedd hi’n ddibynnol ar roddion gan bobol leol i allu codi’r £1,500 i deithio i’r Gemau Olympaidd Ieuenctid yn Singapôr.

Bydd hi’n cystadlu nesa yn rownd yr wyth olaf am 7 o’r gloch heno.

Os yw’n llwyddiannus, bydd hi’n mynd mlaen i’r rownd gyn-derfynol am 9 o’r gloch heno, a’r rownd derfynol am 2 o’r fore Gwener.