Gyda rhagor o fedalau aur gan Andy Murray a Max Whitlock dros nos, mae tîm gemau Olympaidd Prydain nawr yn ail yn y tabl medalau yn Rio.

Llwyddodd y golffiwr Justin Rose a’r beiciwr Jason Kenny i ychwanegu dau aur arall i’r cyfanswm o bump medal aur mewn 24 awr i’r tîm.

Mae gan y tîm gyfanswm o 38 o fedalau gydag 15 ohonynt yn aur. Mae’n golygu bod Tîm Prydain wedi goddiweddyd Tsieina i’r ail safle y tu ôl i’r Unol Daleithiau.

Tenis

Trwy amddiffyn y fedal aur enillodd o’n Llundain yn 2012, llwyddodd Andy Murray, 29, i ddod y chwaraewr tenis cyntaf i ennill ddwywaith yn olynol yn y Gemau Olympaidd.

Llwyddodd i guro Juan Martin Del Potro o’r Ariannin mewn gêm hirfaith a barodd am fwy na phedair awr.

Llwyddodd gymnastwr Max Whitlock, 23, i ennill dwy fedal aur 75 munud a llwyddodd y beiciwr Jason Kenny, 28, i gipio bumed medal aur yn y felodrôm.

Daeth medal aur arall gan y golffiwr Justin Rose, 36, o Hampshire a lwyddodd i gael y twll mewn un cyntaf erioed yn hanes y Gemau Olympaidd yn gynharach yn gystadleuaeth.

Bolt ar y blaen

Ar y trac athletau, Usain Bolt o Jamaica yw’r dyn cyntaf i ennill tair medal aur yn y ras 100m yn y Gemau Olympaidd a llwyddodd Wayde van Niekerk o Dde Affrica i chwalu record byd 400 metr Michael Johnson sydd wedi dal am 17 o flynyddoedd.