Y Cymro Mark Webster o Lanelwy wedi curo'r Awstraliad Simon Whitlock yn y ffeinal
Y Cymro Mark Webster oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth ddartiau broffesiynol gyntaf erioed yn stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Curodd y chwaraewr 32 oed o Lanelwy yr Awstraliad Simon Whitlock yn y ffeinal i ennill teitl Meistri Dartiau Proffesiynol Foster’s.

Hefyd yn y gystadleuaeth roedd Devon Petersen o Dde Affrica a Vincent van der Voort o’r Iseldiroedd.

Dechreuodd y noson gyda gornestau rhwng y chwaraewyr proffesiynol a phedwar o gricedwyr Morgannwg – David Lloyd, Colin Ingram, Graham Wagg a Michael Hogan.

Aeth Webster a Lloyd – dau o frodorion Llanelwy – ben-ben â’i gilydd ac fe gollodd y cricedwr o 2-0.

Yr un oedd y sgôr rhwng y ddau o Dde Affrica, Devon Petersen a Colin Ingram, er i Ingram sgorio 125 gydag un ymweliad i’r oche.

Ac roedd buddugoliaethau o 2-0 i Vincent van der Voort dros Graham Wagg ac i Simon Whitlock dros Michael Hogan.

Yn y rownd gyn-derfynol, roedd Webster yn drech na van der Voort, a Whitlock yn curo Petersen.

Webster gipiodd y teitl yn y pen draw, wrth guro Whitlock o 4-2 yn y ffeinal.

Roedd cyfle ar y noson hefyd i ddau aelod o’r dorf chwarae yn erbyn un o fawrion y gamp, Bobby George, a ddaeth allan i’r ystafell i gerddoriaeth ‘We Are The Champions’ ac wedi’i wisgo yn ei glogyn a’i ‘bling’ ac yn cario canhwyllau.

Mark Webster

Ar ddechrau’r noson, dywedodd Mark Webster wrth Golwg360: “Mae’n braf cael chwarae yng Nghymru – yn y gogledd, de, dwyrain, gorllewin – maen nhw’n dorf dda.

“Gyda’r Matchplay yn dod i fyny, mae’n gyfle da i ymarfer am ddigwyddiad mawr. Mae hyn yn ddefnyddiol heno.

“Yn amlwg mae’n wahanol [i gystadleuaeth arferol] gan fod y dorf yn llai o faint. Bum mlynedd yn ôl, byddai chwaraewyr yma i gael hwyl, ond maen nhw am ennill nawr ac mae’n gystadleuol. Mae hynny’n dda i’r gêm, ry’n ni am guro’r chwaraewyr o’n blaenau ni.

“Mae’n dda hefyd i’r dorf sy’n cael gwerth eu harian. Dyw chwaraewyr ddim am chwarae o gwmpas a cholli. Er mai arddangosfeydd ydyn nhw, maen nhw’n golygu llawer. Maen nhw’n gallu eich ysgogi chi ar gyfer cystadlaethau’r penwythnos.”

Vincent van der Voort

Wrth gyfeirio at herio Webster o flaen ei dorf ei hun, dywedodd yr Iseldirwr Vincent van der Voort wrth Golwg360: “Rhaid i chi fod yn hyderus bob amser. Dw i’n gwybod fod y dorf yn mynd i fod yn fy erbyn i.

“Ond mae’r her yn dda. Mae Mark yn chwaraewr gwych ac fe fyddwn ni’n cael hwyl, a gobeithio mai fi fydd yn ennill.”

Dywedodd fod chwarae mewn digwyddiadau o’r fath yn “hollol wahanol” i fod mewn cystadleuaeth.

“Mae’n fwy o hwyl. Nid ennill yn unig sy’n bwysig. Ennill yw’r cyfan mewn twrnament. Diddanu’r dorf sy’n bwysig yma, a sicrhau eu bod nhw’n cael noson dda ac yn gweld dartiau go iawn.

“Mae rhai chwaraewyr yn gweld hyn fel cyfle da i ymarfer. Dwi ddim yn ei gweld hi felly, achos dych chi ddim yn paratoi yn iawn. Dwi jyst yn ei fwynhau ac yn ymlacio.”

David Lloyd

Cyn ei ornest yn erbyn Mark Webster, dywedodd chwaraewr amryddawn Morgannwg, David Lloyd wrth Golwg360: “Dwi ddim wir yn chwarae lot o ddartiau a bod yn onest!

“Mae’n amlwg yn mynd i fod yn wahanol i gael chwarae mewn canolfan swnllyd yn llawn ffans dartiau. A dwi ddim yn dda iawn chwaith!

“Heno yw’r tro cyntaf i fi daflu cwpwl o ddartiau i baratoi, felly mae ’na rywfaint o bwysau arna i.

“Dwi’n chwarae o dro i dro gyda mêt sydd â bwrdd dartiau ond na, dw i ddim yn chwaraewr da iawn!”

Er hynny, cyfeiriodd Lloyd at y sgiliau sy’n gyffredin rhwng cricedwyr a chwaraewyr dartiau.

“Am wn i, mae’n eitha tebyg i daflu at un ffon. Mae’n rhaid i chi drio bwrw’r targed, edrych ar un man a’i fwrw.”