Mae’r Cymro Michael White drwodd i rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ar ôl trechu pencampwr y llynedd, John Higgins, o bedair ffrâm i un.

Fe gollodd y gŵr o Gastell-nedd y ffrâm gyntaf, ond fe frwydrodd yn ôl i gipio’r gêm a sicrhau lle yn y rownd nesaf.

Mark Williams

Yn y cyfamser, mae Mark Williams wedi colli o 4-2 yn erbyn y prif ddetholyn Mark Selby.

Mae Neil Robertson a Ben Woollaston drwodd i rownd yr wyth olaf ar ôl ennill heddiw, tra bod Ronnie O’Sullivan wedi curo Yu De Lu.

Fe fydd y gemau rhwng Mark Allen v Barry Hawkins, Luca Brecel v Ding Junhui a Judd Trump v Joe Perry yn cael eu chwarae nes ymlaen heddiw.