Jamie Donaldson
Mae’r golffiwr Jamie Donaldson wedi torri rhan o’i fys mewn damwain wrth ddefnyddio llif gadwyn.

Fe bostiodd y Cymro lun o’r anaf ar Twitter, gyda’r bys bach ar ei law chwith yn amlwg wedi gorfod cael sawl pwyth.

Dyw hi ddim yn glir eto a gafodd y bys ei thorri i ffwrdd yn gyfan gwbl ai peidio, na chwaith sut yn union ddigwyddodd y ddamwain.

Ond fe ddywedodd y golffiwr 40 oed y byddai nôl erbyn ‘Dubai’, gan awgrymu ei fod yn gobeithio chwarae yn yr Omega Dubai Desert Classic ar 4 Chwefror.

Donaldson oedd un o sêr Cwpan Ryder yn 2014, pan darodd yr ergyd a enillodd y tlws i Ewrop.