Mae’r bosciwr Tyson Fury wedi colli ei deitl pwysau trwm IBF y byd ar ôl iddo wrthod cymryd rhan mewn gornest orfodol i amddiffyn ei deitl.

Daw’r newyddion lai na phythefnos wedi i Fury guro Wladimir Klitschko yn Dusseldorf ar Dachwedd 29 i gipio teitlau WBA, WBO ac IBF y byd.

Ond yn hytrach na threfnu gornest yn erbyn Vyacheslav Glazkov i amddiffyn ei deitl, penderfynodd Fury y byddai’n well ganddo ail ornest yn erbyn Klitschko.

Daeth cadarnhad o’r penderfyniad i dynnu teitl Fury oddi arno gan yr IBF.

Cwyn

Nid dyma’r tro cyntaf i’r cymeriad dadleuol fod yn y penawdau am y rheswm anghywir yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ddydd Mawrth, daeth cadarnhad fod yr heddlu ym Manceinion yn ymchwilio i sylwadau homoffobig gan Fury ar raglen radio Victoria Derbyshire.

Roedd ei farn am bobol hoyw eisoes wedi’u hamlygu fis diwethaf yn dilyn cyfweliad gyda’r Mail on Sunday.

Yr wythnos hon, dywedodd Fury wrth Jeremy Vine ar Radio 2: “Gwrywgydiaeth, erthylu a phedoffilia – mae angen datrys y tri pheth yna cyn i’r byd ddod i ben. Dyna mae’r Beibl yn ei ddweud wrthyf.”

Mewn cyfweliad arall, gwnaeth Fury sylwadau dilornus am fenywod ac yn benodol am yr athletwraig Jessica Ennis-Hill.

Mae’r sylwadau hefyd wedi arwain at ddeiseb sydd wedi’i llofnodi gan fwy na 100,000 o bobol yn galw ar y BBC i dynnu enw Fury oddi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Hyd yma, mae’r BBC wedi gwrthod tynnu ei enw oddi ar y rhestr fer, gan ddweud mai cyflawniadau ym myd y campau’n unig sy’n cael eu gwobrwyo.

Ond fe allai cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall orfod cyfiawnhau safbwynt y Gorfforaeth pan fydd yn mynd gerbron pwyllgor seneddol yr wythnos nesaf.