Bydd yr ornest rhwng Matthew Stevens a Mark Williams yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn ail-ddechrau yn Sheffield heddiw.
Stevens oedd ar y blaen o 7-2 pan ddaeth y sesiwn i ben neithiwr.
Pe bai Stevens yn cau pen y mwdwl ar y gêm heddiw – sy’n ailadrodd y ffeinal yn 2000 – fe fyddai’n sicrhau ei le yn yr ail rownd am y tro cyntaf ers 2012.
Bydd yr enillydd yn cwrdd â Ronnie O’Sullivan yn yr ail rownd.
Yn y gemau eraill, fe gollodd y Cymro Ryan Day o 10-3 yn erbyn Mark Allen.
Hosanau-gate
Fe allai O’Sullivan dderbyn dirwy ar ôl iddo fentro chwarae heb esgidiau yn ystod ei gêm yn erbyn Craig Steadman ddoe.
Fe dorrodd O’Sullivan ei ffêr y llynedd ac ers hynny, fe’i cafodd hi’n anodd dod o hyd i esgidiau addas sy’n cydymffurfio â’r wisg sy’n dderbyniol ar gyfer y Crucible.
Yn ddiweddarach yn y gêm, fe gafodd fenthyg esgidiau gan gyfarwyddwr y twrnament, Mike Ganley.
Mae gan O’Sullivan fantais o 7-2 dros Steadman.