Gareth Warburton
Fe fydd y rhedwr Gareth Warburton, 31, yn rhedeg ei ras gynta’ ddydd Sul ers cael ei wahardd am fethu prawf cyffuriau cyn Gemau’r Gymanwlad 2014.

Cafodd y rhedwr 800m o Gaernarfon ei wahardd o’r gamp, ynghyd a Rhys Williams, am chwe mis am ei fod wedi cymryd wedi cymryd sylwedd Mountain Fuel Xtreme Energy, oedd yn cynnwys steroid anghyfreithlon.

Ond fe benderfynodd yr awdurdodau nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod nhw wedi cymryd y cyffuriau.

Bydd yn cystadlu yn y Ganolfan Athletau Dan Do Cenedlaethol yng Nghaerdydd dydd Sul fel rhedwr gwadd yn ras yr 800m.