Mark Williams
Mae’r Cymro Mark Williams wedi curo Ronnie O’Sullivan o chwe ffrâm i bump yn rownd wyth olaf y Bencampwriaeth Ryngwladol yn Tsieina.

Aeth O’Sullivan dair ffrâm ar y blaen ar ddechrau’r ornest, ond tarodd y Cymro o Gwm yng Ngwent yn ôl i gipio’i fuddugoliaeth gyntaf dros O’Sullivan ers dros ddegawd.

Er i O’Sullivan chwalu Anthony McGill o 6-1 yn yr ail rownd, doedd y Sais ddim ar ei orau ac fe aeth Williams ar y blaen o 5-3.

Enillodd O’Sullivan y ddwy ffrâm ganlynol, cyn i Williams daro 50 a 22 yn y ffrâm olaf i selio tynged y Sais.

Yn y cyfamser, colli o chwe ffrâm i dair yn erbyn y Gwyddel Mark Allen fu hanes y Cymro arall yn y gystadleuaeth, Michael White.