Frankie Jones
Y gymnastwraig o Gymru, Frankie Jones, enillodd Wobr David Dixon am berfformiad rhagorol yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow.

Mae’r wobr yn mynd i un athletwr unigol ar ddiwedd y Gemau yn seiliedig ar eu perfformiad cyffredinol, cyfraniad at eu tîm a’u hymrwymiad at chwarae teg.

Roedd Frankie Jones yn ysbrydoliaeth i berfformiad gorau tîm Cymru erioed yn y Gemau wedi i’r ferch 23 mlwydd oed ennill chwe medal yn y cystadlaethau gymnasteg rythmig.