Phil Kynaston sydd wedi bod yn ystyried newyddion rasys newydd Pencampwriaeth y Byd F1 ac yn ystyried eu heffaith ar ddyfodol y gystadleuaeth.

Yn y dyddiau diwethaf fe gafwyd cadarnhad y bydd Fformiwla 1 yn dychwelyd i’r Autodromo Hermanos Rodriguez ym Mecsico i rasio am y tro cyntaf ers 1992. Fe ddatgelwyd hefyd fod cytundeb wedi ei arwyddo i gynnal ras ar strydoedd Baku, Azerbaijan o 2016 ymlaen.

Mae hi o hyd yn gyffrous pan mae F1 yn ymweld â gwledydd newydd, ond faint o rasys sydd yn ormod, a pha sicrhad sydd yna y bydd y rasys yn rai llwyddiannus?

Ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, mae trefnwyr yn yr UDA wedi ceisio trefnu bod ras o gwmpas strydoedd New Jersey yn ymuno â’r calendr fel ail ras Americanaidd. Hefyd mae India yn gobeithio y bydd trac Buddh yn ailymuno’r tymor nesaf ar ôl i’r ras gael ei ollwng eleni. Yn ogystal â hynny, mae yna sôn am ddychwelyd i Ffrainc rywbryd yn y dyfodol.

Hyd yn oed heb ras Corea, sydd yn edrych yn annhebyg o gael ei ailsefydlu, mae hynny yn gadael pum trac yn ceisio cael lle ar y calendr yn y ddwy flynedd nesaf.

Gydag 19 ras ar galendr 2014 (20 yw’r record yn 2012), ydyn nhw yn mynd i barhau i adio rasys i’r calendr? Mae yna reol yn dweud bod rhaid cael pob tîm yn unfrydol i gytuno os yw’r calendr am fynd dros 20 ras, a gyda’r holl oriau a theithio oddi cartref mae’r mecanwyr yn enwedig yn gorfod gwneud, dydw i ddim yn gweld hynny’n opsiwn realistig.

Hefyd, hyd yn oed i gefnogwyr brwd, does dim ond nifer pendant o benwythnosau y byddent yn fodlon rhoi drosodd i’r gamp!

Ta-ta i Monza a Spa?

Yr opsiwn arall yw colli rasys cyfredol. Bydd y puryddion, sydd wedi gwylio safbwynt F1 yn symud fwyfwy i’r Dwyrain, yn gyndyn o golli mwy o rasys Ewropeaidd, gan mai dim ond yn ddiweddar mae Silverstone i’w weld yn ddiogel ar ôl blynyddoedd o fygythiad

Mae clasur fel Spa wedi disgyn o’r calendr ar fwy nag un achlysur yn y pymtheg mlynedd ddiwethaf, a Bernie Ecclestone yn dweud yn ddiweddar bod dyfodol Grand Prix yr Eidal ym Monza yn y fantol.

Sydd yn dod a mi yn ôl at rasys megis India a Chorea. Dydi’r rhain ddim wedi bod yn rasys llawn cefnogwyr yn yr eisteddleoedd, felly mae’n peri gofid i mi fod F1 yn mynd i wlad heb hanes chwaraeon modur fel Azerbaijan.

Gyda dau yrrwr o Fecsico yn y pac eleni fodd bynnag mae’n debyg fod cefnogaeth yn y wlad honno ar y llaw arall wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar.

Efallai mai dyna yw’r ateb, bod rhaid cael ryw fath o feini prawf o ran cefnogaeth yn ogystal â gadael i’r arian siarad, cyn cael yr hawl i gynnal ras.

Dw i’n amau’n gryf a fydd pob un o’r ras o’r pump a soniais amdanynt ar y calendr ymhen blwyddyn a hanner, felly fydd na ddim 24 ras yn 2016 (diolch byth!).

Ond mae’n rhaid darganfod rhyw gydbwysedd rhwng arian, hanes, cefnogaeth leol a hyd y calendr i sicrhau bod pob ras yn y dyfodol yn un poblogaidd a fydd yn cael ei chroesawu gan y trigolion lleol yn ogystal â’r gwylwyr o flaen eu setiau teledu.