Gwenllian a Huw ar ddechrau'r ras
Roedd Gwenllian Elias yn un o’r 1,300 o seiclwyr fu’n cymryd rhan yn ras seiclo Etape Eryri ddydd Sul. Dyma ei hargraffiadau hi o’r profiad ar y tandem gyda’i chariad…

Falle nad oedd hi’r syniad gorau ges i ‘rioed i seiclo Etape Eryri heb ddigon o ymarfer. Ond 103 o filltiroedd, 2,300 metr o ddringo, naw awr o bedlo a sawl brechdan gaws yn ddiweddarach, dw i dal yn fyw. Jysd iawn.

Mae fy nghariad, Huw, wrth ei fodd yn seiclo a fo wnaeth ennyn y diddordeb ynof i yn y lle cyntaf. Mae ganddom ni feic tandem hefyd, ac wedi bod ar wyliau arno i Annecy i wylio’r Tour de France y llynedd, ac yn mynd i’r Eidal hefo fo eleni. Felly dyma ni’n penderfynu cofrestru ar gyfer y llwybr mwyaf o’r tri yn ras yr Etape – yn meddwl ein bod ni’n rêl bois ar ôl cwblhau’r llwybr canolig y llynedd.

Ar ôl llond bol o uwd, fe gyrhaeddom ni Faes Caernarfon am ‘chydig wedi saith y bore. Roedd y lle wedi ei drawsnewid yn syrcas lliwgar o stondinau a phawb yn eu siorts tynn yn ysu am gael cychwyn. Mae’r tandem wastad yn creu rhyw fath o ymateb gan bobol – boed o’n wên neu’n ddryswch llwyr – felly ar ôl mensh gan y sylwebwyr dros y meicroffon, dyma ni’n cychwyn tuag at Benygroes a Thalysarn.


Mynydd Y Garn
Fe ddechreuodd yr haul sbecian drwy’r cymylau am tua 8:30yb ac fe gawsom ni fwynhau cip o gopa mynydd Y Garn, oedd yn edrych fel crochan yn ffrwtian ar ben coelcerth gyda’r niwl oddi tano.

Draw at Rhyd Ddu a Beddgelert ac wedyn gweithio’n ffordd at Lanfrothen a Maentwrog. Roedd yr allt nesa’ i fyny at Llan Ffestiniog yn lladdfa. Yr haul tanboeth wedi penderfynu nad oeddem ni’n haeddu cael concro’r allt yn hawdd.

Wrth agosáu at y top, fe welsom ni’r arwydd oeddem ni wedi bod yn disgwyl amdano – gorsaf fwyd. Roedd ‘na lot o seiclwyr o gwmpas, felly dyma ddechrau poeni na fyddai yna digon o fwyd i bawb. Wnes i anelu am un o’r ochr o’r bwrdd bwyd a Huw y cariad am y llall, wedyn cyfarfod yn y canol a chyfnewid brechdanau caws am orennau a bara brith. Da ydi’r tandem yn hynny o ystyr.

Lawr allt…

Ymlaen a ni dros y topiau am Drawsfynydd a’r Bala a dyma pryd wnes i ddechrau cwestiynu pam nad oeddwn i adra wrth y bwrdd bwyd yn bwyta cinio dydd Sul. Ond dal i fynd wnaethom ni – yn gymysgedd o chwys, eli haul, gwybed, a chaws.

Roedd ‘na bobol leol wedi gwirfoddoli i sefyll ar gorneli yn arwain ac annog y cystadleuwyr, a wir yr,  yn ogystal â’r bobol brechdanau, roedden nhw’n arwyr. Wedi bod yno ers oriau man y bore, ac yn dal i gefnogi  ac yn wen o glust i glust. Dw i ond yn gobeithio eu bod nhw’n sylweddoli faint roedden ni’n eu gwerthfawrogi.

Fel oeddem ni’n agosáu at Betws y Coed, fe benderfynom ni fod yn rhaid cael hoe fach arall a choffi’r un i baratoi at y bryn olaf…Pen y Pass. Wrth seiclo tuag at yr allt ar droed Yr Wyddfa, roeddwn i wir yn meddwl na fuasai nghoesau i yn gallu fy nghario i fyny i’r top ac y byddai Huw yn edrych fel tipyn o ffŵl yn reidio’r tandem ar ei ben ei hun. Ond trwy ryw wyrth (anogaeth gan Huw wrth iddo ganu can Tŷ ar y Mynydd, Maharishi) fe roeddem ni ar dop Pen y Pass a hefo mymryn o egni ar ôl i ddathlu gyda high-five eitha’ pathetig. Am adra rŵan.

Un peth nad oeddwn i’n disgwyl oedd y byddai’r daith yn emosiynol. Ond ar ôl gweld fy nheulu yn gweiddi a chlapio ar y Maes yng Nghaernarfon wrth i ni gyrraedd yn ôl, mi wnes i orfod gwneud fy ngorau i ddal y dagrau nol. A dw i ddim yn berson gor-emosiynol.

Dathlu gyda noson o fwyta bwyd Chinese ac yfed gwin wnaethom ni – rhywbeth nad ydy hogia’r Tour de France yn ei wneud dw i’n siŵr.

Dw i wedi gorfod dod a chlustog i’r gwaith hefo fi heddiw, ac mae hi’n cymryd tair gwaith yn fwy i mi gerdded i fyny’r grisiau. Ond roedd Etape Eryri, heb os, yn un o’r pethau gorau (a’r anoddaf) i mi erioed ei wneud. Os ydach chi’n mwynhau bod ar eich beic, bachwch y cyfle i fod yn rhan o un o ddigwyddiadau gorau’r wlad y flwyddyn nesaf – wnewch chi ddim difaru.