Phil Kynaston sydd yn ôl i drafod rhai o’r newidiadau yn y ceir a’r rasys wrth i dymor newydd Fformiwla 1 agosáu …

Ar ôl misoedd, mae’r aros bron ar ben. Bydd tymor 2014 yn gweld y newidiadau mwyaf yn y gamp mewn cenhedlaeth.

Newidiadau ‘gwyrdd’

Gyda’r byd o’n cwmpas yn mynd yn fwy ‘gwyrdd’, dyna yw bwriad y rhan fwyaf o’r newidiadau i’r ceir.

Ers 2006 mae Fformiwla 1 wedi defnyddio injans V8 2.4litr. Eleni, bydd maint yr injans yn mynd i lawr i 1.6l (mi gaiff llawer ohonoch chi ddweud eich bod yn gyrru car gydag injan mwy nag un F1 rŵan!), yn refio i 15000rpm yn hytrach na 18000, yn defnyddio tyrbo a systemau adennill egni.

Yn 2009, cafodd KERS (Kinetic Energy Recovery System) ei gyflwyno i F1. Roedd y system yma yn adennill egni a oedd gynt yn cael ei golli drwy frecio. Byddai’r gyrrwr yn gallu defnyddio’r pŵer ychwanegol yma drwy ddefnyddio botwm ar y llyw.

Roedd y system yma’n darparu 80hp am 6.6 eiliad. Yn 2014, bydd datblygiad o hyn yn cael ei ddefnyddio, sef ERS.  Mae hwn yn cynnwys MGU-K (Motor Generator Unit – Kinetic) ac MGU-H (Heat).

Bydd yr MGU-K yn gwneud fawr yr un gwaith a KERS, tra bydd yr MGU-H yn adennill egni o dyrbin yr egsost. Gyda’i gilydd byddent yn darparu 161hp am 33 eiliad pob lap, a bydd yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol i bweru’r car yn hytrach na fel pŵer ychwanegol.

Bydd pŵer yr injan felly yn dod yn agos at y 750bhp o injans tymor diwethaf.

Pwysau’n codi

I wneud fyny am bwysau ychwanegol y systemau yma fe fydd uchafswm pwysau’r car yn codi o 642kg i 691kg, er bod hyn dal i beri gofid i’r gyrwyr talach.

Bydd hi hefyd yn cymryd amser i ddod i arfer efo sŵn y ceir newydd!

I ychwanegu at yr awyrgylch o effeithlonrwydd, dim ond pum injan fydd gyrrwr yn cael defnyddio mewn tymor (i lawr o wyth) tra bydd gerbocs yn gorfod para chwe ras yn lle pump (tra bod gan y ceir wyth ger yn lle saith).

Hefyd bydd cyfyngiad o 100kg o danwydd yn cael ei ddefnyddio mewn ras yn lle’r 150kg a ganiatawyd gynt.

Bydd y ceir hefyd yn edrych yn dra gwahanol. Mae aden flaen 2014 yn gulach a’r trwyn yn is (i ddiogelu gyrwyr mewn damweiniau ‘T-Bone’). Mae hyn wedi annog dyluniadau eithaf hyll gan rai o’r timau. Gall hyn hefyd greu problem newydd o gar yn mynd o dan un arall.

Mae yna hefyd olwg newydd o’r cefn, gydag un egsost yn dod o ganol y car rŵan yn hytrach na nifer o rai o’r ochr. Mae hyn yn bennaf i rwystro defnyddio aer o’r egsost i’w yrru trwy’r diffuser yng nghefn y car (rywbeth roedd Red Bull yn arbenigo ynddo). Hefyd yn y cefn mae rhan ganol yr aden gefn wedi’i dynnu i ffwrdd.

Pwyntiau dwbl

Eleni bydd 19 ras ar y calendr gydag India a Corea yn diflannu, tra bod ras newydd yn cael ei rhedeg yn Sochi, Rwsia, ger parc Gemau Olympaidd y Gaeaf.

Hefyd fe fydd F1 yn dychwelyd i Awstria, i’r A1 Ring, neu fel y mae hi rŵan y Red Bull Ring. Cwestiwn arall, wrth gwrs, yw a ddylai ras gael ei gynnal ar drac sydd yn eiddo i un o’r cystadleuwyr.

Pwnc llosg arall sydd wedi codi fod y pwyntiau fydd ar gael yn y ras olaf (Abu Dhabi) yn werth dwbl, er mwyn ceisio cadw’r bencampwriaeth yn fyw yn hirach.

Ond yn fy marn i ni ddylai unrhyw ras fod werth mwy nag un arall, ac os ydi tymor yn un cyffrous, mi fydd o heb yr ychwanegiad artiffisial yma.

Ar ddiwedd y tymor hefyd bydd y gyrrwr sydd wedi cychwyn y mwyaf o rasys yn gyntaf yn ennill tarian.

Rheol newydd arall yw bod gyrwyr rŵan yn dewis y rhif y bydd ar eu car, ac yn cadw’r rhif drwy gydol eu gyrfa.

Gyda chymaint o newidiadau ac ansicrwydd, dwi’n siŵr y bydd 2014 yn dymor i’w gofio!

Gallwch ddilyn Phil ar Twitter ar @fillkynaston, a gallwch hefyd ymuno â’i gynghrair ffantasi F1 ar wefan www.badgergp.com (Enw: Golwg360, Cod: 147568)