Geraint Thomas wedi cyfrannu at y fuddugoliaeth
Mae’r hyfforddwr o Gymru, Syr Dave Brailsford wedi mynegi ei falchder yn dilyn buddugoliaeth Chris Froome yn y 100fed Tour de France dros y penwythnos.

Er gwaethaf perfformiad cymysg gan y tîm trwy gydol y ras, Froome ddaeth i’r brig ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth ym Mharis.

Llwyddodd y Cymro Geraint Thomas i barhau i rasio er gwaethaf y ffaith ei fod e wedi torri’i belfis yn y cymal cyntaf, ac roedd aelodau eraill y tîm, Peter Kennaugh ac Ian Stannard wedi’u hanafu yn ystod y ras hefyd.

Wrth ymateb i feirniadaeth o’i dîm, dywedodd Syr Dave Brailsford: “Oedd e’n annheg? Oedd, yn hollol. Edrychwch ar y canlyniad.

“Mae’r bois yma’n griw balch.

“Maen nhw’n berfformwyr, a phan ddywedwch chi wrthyn nhw nad ydyn nhw’n dda iawn, roedd eu hegni nhw’n wych.

“Mae yna feirniadaeth deg y gwnewch chi ei derbyn – fel y diwrnod gwyntoedd croes (cam 13 i Saint-Amand-Montrond), ac roedden nhw yn y lle anghywir.

“Ac wedyn mae gyda chi’r hyn y byddan nhw’n teimlo sy’n feirniadaeth annheg.

“Y feirniadaeth annheg sy’n corddi pobol.”

Roedd disgwyl i Geraint Thomas dynnu allan o’r ras pan dorrodd ei belfis, ond fe gafodd ei gyfle i arwain ei dîm i lawr y Champs-Elysees neithiwr.

“Mae ‘G’ yn un o’r enghreifftiau gorau o rywun nad yw’n rhoi’r gorau iddi.

“Gall e fynd mor ddwfn fel bod angen i chi ei ddal e nôl ychydig.

“Pan welwch chi faint o boen sydd gan rywun, nid dim ond ar y beic ond wrth geisio gorwedd, symud o amgylch y bws, maen nhw’n fodlon mynd drwy’r cyfan i geisio cyfrannu i’r tîm, mae hynny’n creu argraff.

“Mae egni’r tîm hwn yn rhywbeth na allwch chi’i reoli, ond mae’n bwysig dros ben.

“Weithiau, fe deimlwch chi fod gyda chi dipyn o egni ac mae’n diflannu’n sydyn.

“Mae angen ysgogiadau bach arnoch chi i greu’r egni yna.

“Wrth i ‘G’ gyrraedd y Promenade des Anglais, ac wrth i’r tîm wneud yn dda yn y treialon amser tîm, fe wnaeth hynny ail-gynnau tipyn o’r egni o fewn y grŵp.”