Mae’r Cymro Michael White yn ail-ddechrau ei ornest ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd heddiw, 6-2 ar ei hôl hi yn erbyn Ricky Walden.

Collodd y dyn 21 oed o Gastell-nedd bedair ffrâm gyntaf yr ornest, cyn taro nôl ac ennill y ddwy ffrâm nesaf.

Gorffennodd y sesiwn brynhawn ddoe gyda rhediad o 113 i Walden.

Y cyntaf i ennill 13 ffrâm fydd yn symud ymlaen i’r rownd gyn-derfynol, lle bydd yr enillydd yn wynebu naill ai Ding Junhui neu Barry Hawkins.