Mae Malcolm Struel, cyn Gadeirydd clwb pêl-droed Abertawe wedi marw yn 78 oed.

Yn gynharach eleni, bu mewn damwain gyda lori ger Penybont-ar-Ogwr a chafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Ar ôl cymryd yr awenau oddi wrth David Goldstone yn 1972, roedd Malcolm Struel wedi buddsoddi  miloedd o bunnoedd i atal y clwb rhag  cau oherwydd problemau ariannol.

Hefyd cafodd y clod o benodi John Toshack i ymgymryd y rôl fel rheolwr-chwarewr.

Ar ôl hyn, fe gododd yr Elyrch o waelod y gynghrair isaf i gystadlu a’r goreuon yn y wlad.

Fe ymddiswyddodd Malcolm Struel yn 1983, wrth i’r clwb barhau i ddioddef  problemau ariannol.

Bu hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Hosbis Ty Olwen am 23 o flynyddoedd.

“Bydd Malcolm yn cael ei gofio fel arweinydd y clwb drwy gyfnod cofiadwy yn hanes clwb pêl-droed Abertawe,’’ meddai Huw Jenkins, Cadeirydd presennol Abertawe.

‘Fel cadeirydd yr wyf yn sylweddoli’r gwaith caled, yr amser a’r ymrwymiad a wnaeth Malcolm i arwain y clwb i’r cyfeiriad cywir.  Rwy’n siŵr y bydd pob cefnogwr yn ymwybodol ac am gofio am yr hyn a wnaeth i’r clwb,’’ ychwanegodd Jenkins.