Mae Llywodraeth Cymru am roi £200,000 i gefnogi clybiau chwaraeon yng Nghymru tra bod Chwaraeon Cymru hefyd yn rhoi £200,000.

Bydd hawl gan glybiau unigol i roi cais am hyd at £5,000.

Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan Chwaraeon Cymru, gyda gwaith yn cael ei roi yn ei le nawr i gael cyllid i’r clybiau sydd ei angen cyn gynted â phosib.

Daw effaith y coronafeirws ychydig wythnosau yn unig ar ôl i lawer o glybiau yng Nghymru gael eu difrodi’n ddifrifol gan lifogydd a achoswyd gan Stormydd Dennis a Ciara.

“Mae wir yn amser digynsail i bawb ac rydyn ni’n eithriadol ymwybodol o’r heriau i seilwaith chwaraeon Cymru,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

“Rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol yma – bydd wir yn gymorth enfawr i glybiau cymunedol.

“O ystyried pa mor enfawr yw’r argyfwng presennol, rydym yn rhagweld y byddwn yn derbyn nifer sylweddol o geisiadau a bydd rhaid i ni gyfeirio’r cyllid i ble mae ei angen fwyaf.”

Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ofyn am farn y sector wrth lunio gofynion yn y dyfodol ac i sicrhau bod y gronfa hon yn ategu’r rhaglenni cefnogi eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Brian Davies: “Rydyn ni hefyd yn gweithio drwy ffynonellau eraill o gyllid a chefnogaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r help gorau posib.

“Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym iawn ac rydyn ni’n cyfathrebu gyda’n partneriaid a chlybiau gymaint â phosib.”