Dim ond pedwar pwynt oedd ynddi hi wrth i arwyr Cymru ddal eu gafael ar eu mantais drwy guro Awstralia yn eu gêm Cwpan y Byd yn Stadiwm Tokyo, Siapan.

Ar un adeg roedd Cymru 18 o bwyntiau ar y blaen i Awstralia, ond fe lwyddon nhw i ddod yn ol gan gau’r bwlch i bedwar o bwyntiau.

Perfformiad arwrol

Roedd nerfau y cefnogwyr yn rhacs wrth wylio’r ail-hanner gyda’r fuddugoliaeth yn cael ei hystyried yn un hynod.

Roedd y perfformiad yn un arwrol ond yn agos iawn tan y munudau a’r eiliadau olaf.

Mae’n golygu bod Cymru nawr ar frig Grwp D yn y gystadleuaeth.