Enillodd Morgannwg gêm ugain pelawd neithiwr (nos Wener, Awst 30) am y tro cyntaf y tymor hwn.

Gwnaeth eu cystadleuaeth ddirwyn i ben gyda buddugoliaeth o 28 rhediad dros Hampshire yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Sgoriodd Morgannwg 216, eu cyfanswm uchaf erioed mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd, a’u trydydd sgôr uchaf erioed mewn gemau ugain pelawd, wrth iddyn nhw guro Hampshire allan o’r gystadleuaeth.

Fe lwyddon nhw i osgoi’r embaras o efelychu Swydd Derby, oedd heb fuddugoliaeth drwy gydol eu hymgyrch yn 2007.

Fe osodon nhw nod o 217 i Hampshire ond er i Sam Northeast daro 60, doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth a lle ymhlith yr wyth olaf i’r ymwelwyr.

Ymateb i’r fuddugoliaeth

Yn ôl Chris Cooke, wicedwr Morgannwg, roedd yn “dipyn o ryddhad” cael sicrhau’r fuddugoliaeth gyntaf ar ddiwedd y gystadleuaeth.

“Fe wnaethon ni chwarae’r cricd ry’n ni’n gwybod y gallwn ni ei chwarae, ac efallai bod y pwysau oddi arnon ni fel y gallen ni fynd allan a mynegi ein hunain,” meddai ar ddiwedd y gêm.

“Ry’n ni wedi dod yn dîm eitha’ cyson mewn gemau pêl wen dros y blynyddoedd diwethaf, felly daeth yr ymgyrch hon o nunlle, braidd.

“Mae pawb wedi cael siom yn y pen draw, ond gobeithio y gallwn ni gario’r fuddugoliaeth hon gyda ni dros y mis nesaf [wrth fynd am ddyrchafiad yn y Bencampwriaeth]. 

“Fe wnaethon ni osod y seiliau’n dda ac roedd hynny’n golygu bod Lloydy [David Lloyd] a fi yn gallu mynd allan a chwarae’n rhydd, ac mi oedd hi’n llain dda.

“Fe wnaethon ni’r pethau sylfaenol nad oedden ni wedi’u gwneud o’r blaen, o’r partneriaethau i sicrhau bod rhywun ymhlith y pedwar uchaf yn batio drwodd, sef y pethau mwyaf sylfaenol mewn criced ugain pelawd nad ydyn ni wedi’u cael yn iawn. 

“Ond roedd hi’n braf cael y fuddugoliaeth er lles pawb sydd wedi ein cefnogi ni.”

Batio cadarn y tîm cartref

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, dechreuodd yr agorwyr Nick Selman a Shaun Marsh yn gadarn, wrth ymosod o’r dechrau’n deg gyda chyfres o ergydion i’r ffin yn ystod y pelawdau agoriadol.

Fe wnaethon nhw gosbi Kyle Abbott a Chris Wood wrth iddyn nhw geisio sicrhau mantais gynnar yn yr ornest ond ar ôl taro dau bedwar a chwech, cafodd Nick Selman ei ddal wrth yrru yn yr awyr at y capten James Vince oddi ar fowlio Chris Wood am 33.

Fe barhaodd y capten Colin Ingram i ymosod cyn i’r troellwr coes Mason Crane fowlio’i bartner wrth iddo geisio sgubo’r bêl yn y degfed pelawd. 

Fe ddaeth David Lloyd i’r llain a dangos ei fwriad o’r belen gyntaf, wrth daro tri chwech o fewn pedair pelen gan y troellwr llaw chwith Tabraiz Shamsi, cyn cael ei ddal gan y wicedwr Lewis McManus am 40.

Daeth Colin Ingram o fewn chwech rhediad i’w drydydd hanner canred yn y gystadleuaeth, cyn cael ei ddal yn gyrru at Chris Wood ar y ffin syth ar yr ochr agored oddi ar fowlio Liam Dawson. 

Batiodd Chris Cooke (45) a Callum Taylor yn gadarn er mwyn gosod nod o 217 a sicrhau bod gan Hampshire nod rhy fawr yn y pen draw.

Cwrso nod sylweddol

Fe allai Hampshire, wrth gwrso nod sylweddol, fod wedi colli’r Cymro Aneurin Donald, cyn-fatiwr Morgannwg, yn y belawd gyntaf ond fe oroesodd e waedd wrth i’r maeswyr geisio’i redeg e allan. 

Ond er gwaetha’r penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr, fe gafodd ei ddal yn fuan wedyn gan Shaun Marsh oddi ar fowlio Roman Walker wrth geisio taro chwech.

Fe gollodd Hampshire eu capten James Vince yn y seithfed pelawd, wrth iddo fe ddarganfod dwylo diogel David Lloyd yn yr ochr agored, wrth i’r ymwelwyr lithro i 67 am ddwy.

Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd Hampshire yn 93 am ddwy ac roedd Rilee Rossouw a Sam Northeast yn wynebu talcen caled wrth i Forgannwg bwyso arnyn nhw.

Cafodd Rilee Rossouw ei ddal yn gampus o isel ar y ffin gan Marchant de Lange am 24, ond fe gyrhaeddodd Sam Northeast ei hanner canred oddi ar 36 o belenni.

Ond y pen arall i’r llain cafodd James Fuller ei ollwng cyn cael ei fowlio gan Marchant de Lange yn yr unfed belawd ar bymtheg.  

Cafodd Sam Northeast ei fowlio gan Prem Sisodiya am 60, cyn i Roman Walker gipio wicedi Lewis McManus a Chris Wood yn y belawd olaf ond un.

Cafodd Liam Dawson ei fowlio gan David Lloyd yn y belawd olaf ond un.