Daeth gêm ugain pelawd Morgannwg yn erbyn Essex yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd i ben ar ôl pedair pelawd yn unig, wrth i’r glaw ddirwyn yr ornest i orffen yn gynnar neithiwr.

Mae’n golygu bod y ddwy sir yn cipio pwynt yr un.

Galwodd Morgannwg yn gywir, a gwahodd Essex i fatio, wrth i’r gêm ddechrau chwarter awr yn hwyr am 6.45yh.

Talodd y penderfyniad ar ei ganfed yn y cyfnod clatsio, wrth i Graham Wagg gipio wiced Cameron Delport ac i’r wicedwr Chris Cooke gipio daliad yn ei ganfed gêm ugain pelawd i’r sir.

Ond daeth y glaw wedyn i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae.

Ar ôl archwilio’r cae am 8 o’r gloch, penderfynodd y dyfarnwyr Alex Wharf a James Middlebrook y byddai’r gêm yn dechrau eto am 8.25, ac mai gornest 11 pelawd yr un fyddai hi.

Ond daeth y glaw unwaith eto wrth i’r chwaraewyr baratoi i ddychwelyd, a chafodd y gêm ei chanslo am 8.40yh.

Bydd Morgannwg yn herio Surrey yn eu gêm nesaf yn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd ddydd Sul.