Wynebodd Morgannwg yr anffawd o ail hatric mewn dwy gêm yn erbyn Middlesex neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 26), wrth i Toby Roland-Jones gipio pum wiced i sicrhau buddugoliaeth o wyth wiced i’w dîm yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Fe ddaeth ar ôl i Tom Curran gyflawni’r un gamp yn y gêm ugain pelawd i Surrey ar gae’r Oval nos Iau, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 44, eu sgôr isaf erioed yn y fformat.

Sgoriodd Morgannwg 136 yn unig yn eu batiad, ac fe gwrsodd y Saeson, sy’n ail yn y tabl, y nod yn hawdd, wrth i Stevie Eskinazi daro 51 i gadw Morgannwg ar waelod y tabl.

Dechrau gwael i Forgannwg

Cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib i’r ornest, wrth i Fakhar Zaman, yn ei gêm gartref gyntaf i’r sir, gael ei ddal i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Tom Helm oddi ar belen ola’r belawd gyntaf.

Ceisiodd David Lloyd a’r capten Colin Ingram achub y batiad cyn i’r capten yrru i’r awyr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Toby Roland-Jones yn y bumed pelawd, ac fe orffennodd Morgannwg y cyfnod clatsio ar 31 am ddwy.

Sylweddolodd Billy Root o’r cychwyn cyntaf fod angen brysio i achub y sefyllfa, ac fe darodd e gyfres o ergydion i’r ffin oddi ar fowlio’r troellwr coes Nathan Sowter, cyn iddo yrru’n gam at Steven Finn ar yr ochr agored.

Cafodd David Lloyd ei ddal ar y ffin wrth yrru’n syth i’r ochr agored i adael Morgannwg mewn rhywfaint o drafferth ar 75 am bedair, ac fe waethygodd y sefyllfa pan dynnodd Owen Morgan ergyd wan at Mujeeb Ur Rahman i adael ei dîm yn 89 am bump erbyn diwedd y bymthegfed pelawd.

Sgôr parchus – ond dim digon

Pan ddaeth Dan Douthwaite a Chris Cooke ynghyd, fe lwyddon nhw i sicrhau y byddai Morgannwg yn cyrraedd sgôr parchus.

Tarodd Chris Cooke gyfres o ergydion enfawr oddi ar Tom Helm, wrth dynnu chwech a tharo dau bedwar, y naill yn gadarn heibio’r bowliwr, a’r llall drwy’r cyfar.

Ond fe gafodd ei ddal ar y ffin wrth yrru’n syth ar ochr y goes, wrth i Steven Finn gipio’r wiced yn y ddeunawfed pelawd, a’r sgôr yn 120 am chwech.

Hatric

Collodd Morgannwg eu seithfed wiced yn y belawd olaf ond un, pan ergydiodd Graham Wagg yn syth i’r awyr at Steven Finn oddi ar fowlio Tom Helm.

Wrth i Toby Roland-Jones gipio’r hatric, fe gipiodd Dan Lincoln ddau ddaliad campus yn ei gêm gyntaf i’r sir, ddeuddydd yn unig ar ôl llofnodi ei gytundeb ugain pelawd cyntaf.

Aeth y daliad arall i James Harris, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, wrth i’r sir Gymreig gael eu bowlio allan am 136 gyda thair pelen o’r batiad yn weddill.

Cwrso’n gryf

Wrth ddechrau cwrso nod gymharol isel, 137, fe allai Middlesex fod wedi cael dechrau gwael, ond fe gafodd Stevie Eskinazi ei ollwng ar y ffin wrth dynnu’n sgwâr at Fakhar Zaman ar ochr y goes.

Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, sef y chwe phelawd gyntaf, roedden nhw eisoes wedi cyrraedd 50 heb golli wiced, gyda dim ond 87 o rediadau’n weddill oddi ar 14 o belawdau.

Cyrhaeddodd Stevie Eskinazi ei hanner canred oddi ar 28 o belenni, wrth daro saith pedwar a dau chwech i gyrraedd y garreg filltir.

Ond fe gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite ar ddiwedd y nawfed pelawd, a’r sgôr yn 75 am un.

Dair pelawd yn ddiweddarach, a’r sgôr yn 88, collodd Middlesex eu hail wiced pan darodd Dan Lincoln ergyd i lawr ochr y goes at Lukas Carey oddi ar fowlio Marchant de Lange am wyth.

Ond dim ond 49 o rediadau oedd eu hangen arnyn nhw erbyn hynny, oddi ar 8.4 o belawdau.

Cafodd Max Holden ei ollwng gan Billy Root ar 17, ac fe arhosodd Dawid Malan wrth y llain i arwain ei dîm i fuddugoliaeth wrth i faesu Morgannwg chwalu’n rhacs, ac maen nhw’n dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.