Mae Chris Coleman wedi cael ei ddiswyddo gan glwb pêl-droed Hebei China Fortune, a hynny 11 mis ar ôl iddo gael ei benodi’n rheolwr.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r clwb yn Tsieina wedi cadarnhau na fydd Chris Coleman bellach yn ei arwain yn dilyn “trafodaethau cyfeillgar” rhwng y ddwy ochr.

Mae cyn-hyfforddwr Cymru wedi cael cyfnod anodd yn Tsieina, wedi i’r clwb golli chwech allan o naw gêm y tymor hwn.

Yn ystod y gêm yn erbyn Henan Jianye, pan gollodd Hebei China Fortune o 3-2, fe welwyd baner yn adrodd: “Helo Mr Coleman, ewch adre!”

Amddiffyn enw da Chris Coleman

Mae gwraig Chris Coleman, Charlotte, wedi amddiffyn enw da ei gŵr ar Twitter yn sgil y cyhoeddiad am ei ddiswyddiad.

“Mae ein cyfnod yn Tsieina wedi dod i ben,” meddai. “Roedden ni wedi gobeithio gadael cyn bod y tymor yn cychwyn ond doedd dim hawl ganddon ni, a hynny ar ôl colli chwaraewyr a chael ein hatal rhag arwyddo chwaraewyr newydd,” meddai’r gyn-gyflwynwraig.

“Dw i’n hynod falch o’m gŵr a arweiniodd y clwb mewn brwydr galed  i’r chweched safle y tymor diwethaf o dan amgylchiadau anodd.

“Rydyn ni wedi cael profiad anhygoel ac mae fy mhlant hyd yn oed yn gallu siarad ychydig o Tsieinieg.”