Fe gollodd tîm pêl-droed merched Cymru o 2-0 yn erbyn yr Eidal mewn gêm gyfeillgar yn Cesena neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 22).

Roedd yr eira ar lawr y cae yn her i’r ddau dîm, ond fe lwyddodd yr Eidal i ennill y dydd diolch i’r ymosodwraig, Ilaria Mauro.

Fe lwyddodd y ddynes o Fiorentina sgorio dwy o golau’r gêm, gyda’r cyntaf yn ystod y chwarter awr agoriadol a’r ail ychydig cyn hanner amser.

Bu bron i Jess Fishlock sgorio dros Gymru ar un adeg, ond doedd hynny ddim i fod.

Mae disgwyl i garfan Cymru barhau gyda’u paratoadau ar gyfer rhagbrofion Euro 2021 y mis nesaf pan fyddan nhw’n herio Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar arall.