Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw (Ionawr 1) na fydd Geraint Thomas na’i gyd-aelod o dîm Sky, Chris Froome, yn cystadleu yn y Giro d’Italia eleni, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar y Tour de France.

Fe fydd y Cymro, wrth gwrs, yn amddiffyn ei deitl yn brif feiciwr 2018, ar ôl sicrhau ei le yn y llyfrau hanes y llynedd fel y Cymro cyntaf i ennill y ras yn Ffrainc.

Fe gafodd ei goroni hefyd yn  Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn dilyn ei lwyddiant. 2019 fydd ei flwyddyn olaf yn rhan o dim Sky, sydd yn rhoi gorau i noddi criw David Brailsford ar ddiwedd 2019.

Mi fydd Tour de France yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 6-28.