Mae dyfarnwr o Gonwy yn gwireddu breuddwyd brynhawn heddiw (dydd Sul, Mai 6) wrth gael y fraint o ddyfarnu ffeinal Cwpan Cymru am y tro cyntaf.

Mae Iwan Griffith, 29, yn un o ddyfarnwyr rhestr FIFA, ac fe fu’n bedwerydd swyddog yn ffeinal 2015 ar Barc Latham pan oedd Y Seintiau Newydd yn fuddugol yn erbyn Y Drenewydd.

“Mi es i gêm yn y pentref lle’r o’n i’n byw a Gareth Wyn Jones wnaeth ofyn i fi redeg y llinell. Dyna sut wnes i ddechrau dyfarnu,” meddai Iwan Griffith wrth golwg360. 

“Roedd yn freuddwyd i mi pan ddechreuais i fod yn ddyfarnwr rhyngwladol ar restr FIFA a dyfarnu rownd derfynol Cwpan Cymru.

“Dw i’n ffodus fy mod i wedi cael gwireddu’r ddau beth.

“Y peth gorau  i mi ar ôl y gêm fasa cael neb yn siarad am benderfyniadau dadleuol,” meddai wedyn.

“Mae’n gystadleuaeth arbennig sy’n wastad yn dod â’r gorau allan o’r dyfarnwyr ar timau.”

Cymru… a’r byd

Ers pasio i fod yn ddyfarnwr FIFA, mae Iwan Griffith wedi dyfarnu ar gemau rhyngwladol, yn cynnwys gêm ragbrofol Cwpan y Byd; gêm Cynghrair Ewropa a gemau o dan-21.

Mae wedi teithio i ddwy ar bymtheg o wledydd gwahanol, ac yntau’n ddim ond 29 oed.

Ond mae hefyd yn gefnogwr pêl-droed, ac roedd yn aelod o’r’Wal Goch’ chwedlonol yn Ffrainc yn 2016.

Aeth o fod yn gefnogwr i fod yn bedwerydd swyddog yng ngêm olaf y rheolwr, Chris Coleman – yr ornest gyfeillgar yn erbyn Panama yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Roedd  y tri swyddog o Wlad Belg, ac mi ges i fy newis fel y pedwerydd swyddog,” meddai.

“Fisoedd ynghynt, o’n i’n gwylio Cymru… ac wedyn roedd Chris Coleman wrth fy ochr trwy’r gêm yn holi a chwestiynu – roedd raid i fi fod yn ddi-duedd trwy gydol y noson, ond oedd yn achlysur arbennig i mi.”

Gêm fythgofiadwy

Gem sy’n aros yn y cof i Iwan Griffith ydi honno rhwng Bangor a’r Rhyl yn Nantporth (Ionawr  2016) pan sgoriodd Steve Lewis dair gôl ac un fuddugol arbennig yn y mynd olaf i ennill y gêm.

Roedd hi’n dipyn o gêm, a diweddglo bythgofiadwy iddi.

“Mi fydd ffeinal Cwpan Cymru yn ddiwrnod arbennig i fi a’r teulu, a phawb sydd wedi cyfrannu at fy ngyrfa… a dw i wir yn edrych ymlaen at y gêm.” meddai Iwan Griffith.