Mae un o glybiau pel-droed mwya’ gogledd Cymru wedi methu â chyrraedd y safon angenrheidiol i gael trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn disgyn i Gynghrair Undebol Huws Gray y tymor nesaf.

Mae Bangor wedi bod yn un o hoelion wyth yr  Uwch Gynghrair, ac maen nhw wedi ei hennill hi deirgwaith – yn 1993-94, 1994-5 ac yn 2010-11.

Roedd tri o glybiau yn cyflwyno eu hapêl gerbron panel annibynnol yng Nghaerdydd heddiw. Mae Cei Connah wedi llwyddo i gael eu trwydded nhw, tra bod Llanelli hefyd wedi ennill eu hachos – a’u dyrchafiad felly o Gynghrair y De.