Mae’r gyrrwr Fformiwla 1, Lewis Hamilton, yn dweud ei fod wedi maddau i’r athrawon hynny oedd yn ei amau yn yr ysgol.

Mae’r dweud ei fod bellach wedi dod dros y sylwadau “na fyddai byth yn gwneud dim ohoni” y bu’n rhaid iddo eu cymryd tra’r oedd yn jyglo ei addysg a’i ymdrechion i wneud marc yn y byd chwaraeon.

Mae Lewis Hamilton yn dweud iddo gael gwybod yn 17 oed ei fod yn diodde’ o dyslecsia, a bod hynny’n un rheswm pam ei fod wedi “stryglan” yn yr ysgol. Mae hefyd yn dweud iddo gael ei fwlian oherwydd hynny, a bod yr athrawon “yn llai na chefnogol” bryd hynny.

“Mae yna bob amser bobol sy’n barod i weld bai,” meddai’r gyrrwr mewn cynhadledd addysg yn Dubai. “Pan o’n i’n yr ysgol, dw i’n meddwl fod ymateb athrawon yn adlewyrchiad o’r amser caled oedd athrawon yn ei gael bryd hynny.

“Felly dw i’n maddau i fy athrawon. Gobeithio eu bod nhw’n fy ngwylio i heddiw, a’u bod nhw’n falch ohona’ i. Oherwydd, er fy mod i wedi cael ambell i brofiad oedd yn anodd iawn i mi ei dderbyn, roedd fy athrawon, ar y cyfan, yn help i mi… gobeithio eu bod nhw mewn lle gwell heddiw.”

Fe gafodd Lewis Hamilton ei fagu ar stad o dai cyngor yn Stevenage, ac roedd cefnogaeth ei dad yn allweddol i’w lwyddiant yn y byd rasio.