Mae chwech o enwau ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru eleni.

Mae modd pleidleisio dros y ffôn neu’r we am yr enillydd o blith Gareth Bale, Elinor Barker, Aled Siôn Davies, Jonathan Davies, Natalie Powell a Geraint Thomas.

Bydd y bleidlais yn cau ar ddydd Llun, Tachwedd 27, ac enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd seremoni fawreddog yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar nos Lun, Rhagfyr 4.

Mae panel y beirniaid yn cynnwys y cyn-chwaraewr rygbi Nigel Walker, y gyn-athletwraig Sarah Thomas, y cyn bêl-droediwr Nathan Blake, y cyn-gricedwr Steve James a Rheolwr Perfformiad Uchel Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

Y rhestr fer

  • Roedd chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru, Gareth Bale, yn rhan o dîm Real Madrid wnaeth ennill Cynghrair y Pencampwyr a’r La Liga.
  • Mae’r seiclwr Elinor Barker, wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau’r Byd ac Ewrop ar y trac.
  • Fe wnaeth Aled Siôn Davies ennill dwy fedal aur a gosod record byd ym Mhencampwriaethau Para-Athletau’r Byd.
  • Jonathan Davies oedd Chwaraewr y Gyfres Y Llewod yn Seland Newydd, ac fe enillodd y Pro12 hefyd gyda’r Scarlets.
  • Natalie Powell yw’r ddynes gyntaf o Brydain i gyrraedd rhif un yn netholion Judo’r byd.
  • Llwyddodd Geraint Thomas i fod y seiclwr cyntaf o Gymru i wisgo’r crys melyn yn y Tour de France.

Dywedodd Nigel Walker, “Mae ’na uchafbwyntiau mawr eleni. Tîm pêl-droed Cymru, tîm rygbi Cymru, taith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, y chwaraewyr Taekwondo, y beicwyr, para-feicwyr, para-athletwyr, chwaraeon moduro – ar ddwy a phedair olwyn – ac athletwyr trac a maes. Mae ’na ormod i’w rhestru”.

Mae’r categorïau eraill yn cynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn a Thîm y Flwyddyn.