Mae Tudur Owen ymhlith y digrifwyr sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer “extravaganza” Dydd Gŵyl Dewi clwb comedi Glee yng Nghaerdydd.

Gan ddechrau heno (nos Iau, Chwefror 27), bydd clwb Glee yn cynnal pedair noson o gomedi gan ddigrifwyr o Gymru, ac ar y bedwaredd noson (Mawrth 1) bydd yna sioe llai coch ar gyfer teuluoedd.

Jenny Collier, Robin Morgan, y deuawd ‘Sheep and Mash’ a Mike Bubbins, un o sêr y gyfres ‘Tourist Trap’ ar y BBC, fydd yn diddanu’r dorf ar nos Iau, ac mi fydd Tudur Owen ynghlwm â nosweithiau Iau a Gwener.

Bydd Sarah Breese, Dan Thomas, Jeff Japers a Robin Morgan yn perfformio ar Ddydd Gŵyl Dewi – nod y digwyddiad hwnnw yw ysbrydoli’r to nesaf o gomedïwyr, sef plant saith i 11 oed.

“Mae gan Gymru rhai o’r comediwyr gorau yn y byd…” meddai James Allen, Rheolwr Glee Caerdydd.

“A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, dyma’r cyfle gorau i ddod â nhw ynghyd a chynnal extravaganza Cymreig.”