Mae Efa Gruffudd Jones wedi ei phenodi’n Gadeirydd newydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru.

Daw yn wreiddiol o Dreforus, ac mae ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cyn hynny bu’n Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru am dros ddegawd.

Mae’n olynu Gwerfyl Pierce Jones yn ei swydd newydd, sydd wedi bod wrth y llyw ers pum mlynedd.

Bydd Efa Gruffudd Jones yn cychwyn ar ei gwaith o fis Rhagfyr ymlaen.

“Edrych ymlaen yn fawr”

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac at gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r Theatr dros y cyfnod nesaf,” meddai Efa Gruffudd Jones.

“Mae’r Theatr Genedlaethol yn gwneud gwaith gwych wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Gymraeg, ac wrth ddatblygu’r Theatr yng Nghymru.”