Mae’r actor o Gymru, Anthony Hopkins, wedi bod yn trafod ei frwydr yn erbyn alcohol, gan ddisgrifio ei hun fel dyn a oedd yn “anodd iawn i weithio gydag e”.

Roedd yr actor o Fargam ger Port Talbot, sy’n enwog am ymddangos mewn ffilmiau fel The Silence of The Lambs, The Elephant Man a Legends of The Fall, yn siarad am ei fywyd a’i yrfa o flaen cynulleidfa o fyfyrwyr yn Los Angeles.

Mae’n cyfeirio at gyfnod ar ddechrau ei yrfa actio pan oedd yn gaeth i’r ddiod.

Dywed mai diwylliant y theatr oedd yn bennaf gyfrifol am y broblem, gan ychwanegu ei fod yn “anodd iawn” i bobol weithio gydag e oherwydd hynny.

Fe gychwynnodd ar y daith i oroesi’r broblem ym mis Rhagfyr 1975, meddai wedyn, ar ôl i arbenigwraig ofyn iddo, “Pam na wnewch chi ymddiried yn Nuw?”

“Dylen i fod wedi marw yng Nghymru”

Mae Anthony Hopkins, sy’n 80 oed ac yn byw yn Malibu erbyn hyn, hefyd yy trafod sut y daeth i fod yn actor.

Dywed iddo gychwyn actio oherwydd nad oedd ganddo “ddim byd arall i’w wneud”, a’i gyngor i’r myfyrwyr oedd i gymryd pob cyfle sy’n dod iddyn nhw.

“O’m bywyd fy hun, dw i dal yn methu â credu sut beth yw fy mywyd oherwydd fe ddylen i fod wedi marw yng Nghymru – yn feddw neu rywbeth tebyg,” meddai.

“Dywedwch ie i bopeth. Dywedwch ie a chymrwch y siawns.”