Bydd actor Cymraeg y gyfres Game Of Thrones yn y brif ran yng nghynhyrchiad cyntaf y West End o’r ddrama Foxfinder gan Dawn King ddiwedd yr haf.

Mae Iwan Rheon, 33, sy’n wreiddiol o Gaerdydd wedi ennill gwobrau Olivier ar ôl serennu yn Misfits ac Our Girl.

Fe fydd y sioe ddiweddara’ hon yn dechrau yn theatr Ambassadors, Llundain o Fedi 6 ac yn para tan tan Ionawr 5, 2019.

Mae’r ddrama gomig yn adrodd hanes William Bloor, sy’n ymchwilio i achos o wenwyno ar fferm… ac mae’r canlyniadau yn ddramatig.